47 Oherwydd y mae'r Goruchaf yn eich cofio, ac nid yw'r Hollalluog wedi eich gollwng dros gof am byth
48 Nid wyf finnau wedi eich gadael na chefnu arnoch, ond deuthum i'r lle hwn i weddïo dros anghyfanedd-dra Seion ac i geisio trugaredd i'ch cysegr, a ddarostyngwyd.
49 Yn awr ewch adref, bob un ohonoch; ac ar ôl y dyddiau hyn fe ddof atoch.”
50 Yna aeth y bobl ymaith i'r ddinas, fel y dywedais wrthynt.
51 Ond arhosais innau yn y maes am saith diwrnod, yn unol â'r gorchymyn a roddwyd imi. Blodau'r maes yn unig oedd fy mwyd; llysiau oedd fy ymborth y dyddiau hynny.