24 Felly gwybydd mai mwy yw gwynfyd y rhai a adewir na'r eiddo y rhai a fu farw.
25 Dyma ddehongliad y weledigaeth: y dyn a welaist yn dod i fyny o eigion y môr
26 yw'r un y mae'r Goruchaf yn ei gadw'n barod drwy oesoedd lawer; bydd ef ei hun yn gwaredu ei greadigaeth ac yn pennu tynged y rhai a adewir.
27 Ynglŷn â'r anadl a'r tân a'r storm a welaist yn dod allan o'i enau,
28 ac yntau heb na gwaywffon nac arf rhyfel yn difetha ymosodiad y llu a ddaeth i ymladd yn ei erbyn, dyma'r dehongliad:
29 y mae'r dyddiau'n wir yn dod pan fydd y Goruchaf yn dechrau gwaredu'r rhai sydd ar y ddaear.
30 Daw dryswch meddwl ar drigolion y ddaear;