30 Daw dryswch meddwl ar drigolion y ddaear;
31 byddant yn cynllunio rhyfel yn erbyn ei gilydd, dinas yn erbyn dinas, ardal yn erbyn ardal, cenedl yn erbyn cenedl, teyrnas yn erbyn teyrnas.
32 A phan ddaw hyn i fod, a phan ddigwydd yr arwyddion a ddangosais iti o'r blaen, yna datguddir fy mab, sef y dyn a welaist ti yn codi o'r môr.
33 Yna, pan glyw yr holl genhedloedd ei lais ef, bydd pob un ohonynt yn gadael ei gwlad ei hun ac yn rhoi'r gorau i ryfela yn erbyn ei gilydd,
34 ac fe'u cesglir ynghyd yn un llu aneirif, fel y gwelaist, â'u bryd ar ddod a'i drechu ef.
35 Ond bydd ef yn sefyll ar ben Mynydd Seion;
36 a daw Seion yn amlwg i bawb, wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, yn cyfateb i'r modd y gwelaist y mynydd yn cael ei naddu heb gymorth llaw dyn.