1 Gwae di, Fabilon, ac Asia hefyd! Gwae di, yr Aifft, a Syria!
2 Ymwregyswch â sachliain a blew geifr, galarwch a thristewch dros eich plant, oherwydd y mae eich distryw gerllaw.
3 Y mae'r cleddyf wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w droi ymaith?
4 Y mae tân wedi ei ollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w ddiffodd?
5 Y mae drygau wedi eu gollwng yn eich erbyn, a phwy sydd i'w gyrru yn eu hôl?
6 A all unrhyw un yrru llew newynog yn ei ôl mewn coedwig, neu ddiffodd tân mewn sofl unwaith y bydd wedi dechrau ffaglu?