23 A theflir allan y meirw fel tail, ac ni bydd neb i gynnig cysur; oherwydd gadewir y ddaear yn anghyfannedd a'i dinasoedd yn adfeilion.
24 Ni bydd neb ar ôl i drin y tir a'i hau.
25 Bydd y coed yn dwyn eu ffrwythau, ond pwy fydd i'w cynaeafu?
26 Bydd y grawnwin yn aeddfedu, ond pwy fydd i'w sathru? Oherwydd bydd y broydd yn anghyfannedd hollol;
27 bydd un dyn yn hiraethu am weld rhywun arall neu glywed ei lais.
28 Oherwydd o ddinas gyfan gadewir deg; yng nghefn gwlad dau fydd ar ôl, yn ymguddio yn y fforestydd trwchus ac yn agennau'r creigiau.
29 Fel y gadewir tri neu bedwar olif ar bob coeden mewn perllan olewydd,