25 Bydd y coed yn dwyn eu ffrwythau, ond pwy fydd i'w cynaeafu?
26 Bydd y grawnwin yn aeddfedu, ond pwy fydd i'w sathru? Oherwydd bydd y broydd yn anghyfannedd hollol;
27 bydd un dyn yn hiraethu am weld rhywun arall neu glywed ei lais.
28 Oherwydd o ddinas gyfan gadewir deg; yng nghefn gwlad dau fydd ar ôl, yn ymguddio yn y fforestydd trwchus ac yn agennau'r creigiau.
29 Fel y gadewir tri neu bedwar olif ar bob coeden mewn perllan olewydd,
30 neu fel y gadewir rhai sypiau o rawnwin ar ôl mewn gwinllan hyd yn oed ar ôl ei chwilio'n ofalus gan gasglwyr llygatgraff,
31 felly yn y dyddiau hynny gadewir tri neu bedwar ar ôl gan y rhai fydd yn chwilio'r tai i ladd eu trigolion â'r cleddyf.