31 felly yn y dyddiau hynny gadewir tri neu bedwar ar ôl gan y rhai fydd yn chwilio'r tai i ladd eu trigolion â'r cleddyf.
32 Gadewir y ddaear yn anghyfannedd, a meddiennir y meysydd gan ddrysni; bydd drain yn tyfu ar ffyrdd a holl lwybrau'r ddaear, am na bydd defaid yn eu tramwyo.
33 Bydd morynion yn galaru am nad oes ganddynt ddarpar-wŷr, bydd gwragedd yn galaru am nad oes ganddynt wŷr, a'u merched yn galaru am nad oes iddynt neb i'w cynnal.
34 Lleddir darpar-wŷr y naill yn y rhyfel, a bydd gwŷr y lleill yn marw o newyn.
35 Ond gwrandewch y geiriau hyn, chwi wasanaethyddion yr Arglwydd, a'u hystyried yn fanwl.
36 Dyma air yr Arglwydd; derbyniwch ef, a pheidiwch ag amau yr hyn sydd gan yr Arglwydd i'w ddweud.
37 Yn wir, y mae'r drygau yn agos; nid oes dal yn ôl arnynt.