51 Felly peidiwch ag efelychu anghyfiawnder na'i weithredoedd.
52 Oherwydd mewn byr amser fe'i symudir oddi ar y ddaear, a chyfiawnder fydd yn llywodraethu arnom.
53 Peidied y pechadur â dweud nad yw wedi pechu, oherwydd llosgir marwor tanllyd ar ben yr un sy'n dweud, “Nid wyf fi wedi pechu gerbron Duw a'i ogoniant ef.”
54 Yn sicr y mae'r Arglwydd yn gwybod am holl weithredoedd dynion, eu cynlluniau, a'u bwriadau, a'u meddyliau dyfnaf.
55 Dywedodd ef, “Bydded daear,” a daeth i fod; a “Bydded nef,” a daeth hithau i fod.
56 Yn unol â'i air ef y gosodwyd y sêr yn eu lle, ac y mae eu nifer hwy yn hysbys iddo.
57 Y mae ef yn chwilio'r dyfnderoedd a'u trysorfeydd; y mae wedi mesur y môr a'i gynnwys.