54 Yn sicr y mae'r Arglwydd yn gwybod am holl weithredoedd dynion, eu cynlluniau, a'u bwriadau, a'u meddyliau dyfnaf.
55 Dywedodd ef, “Bydded daear,” a daeth i fod; a “Bydded nef,” a daeth hithau i fod.
56 Yn unol â'i air ef y gosodwyd y sêr yn eu lle, ac y mae eu nifer hwy yn hysbys iddo.
57 Y mae ef yn chwilio'r dyfnderoedd a'u trysorfeydd; y mae wedi mesur y môr a'i gynnwys.
58 Â'i air cyfyngodd ef y môr oddi mewn i derfynau'r dyfroedd, a gosod y ddaear ynghrog uwchben y dŵr.
59 Taenodd ef y nef fel cronglwyd, a'i sefydlu goruwch y dyfroedd.
60 Gosododd ffynhonnau dŵr yn yr anialwch, a llynnoedd ar ben y mynyddoedd i ollwng afonydd i lawr o'r ucheldir i ddyfrhau'r ddaear.