69 Caiff y rhai sy'n ildio iddynt eu gwatwar ganddynt, a'u diystyru, a'u sathru dan draed.
70 Mewn lle ar ôl lle a thrwy'r dinasoedd cyfagos, cyfyd erledigaeth chwyrn ar y rhai sy'n ofni'r Arglwydd.
71 Fel dynion gorffwyll, ni fyddant yn arbed neb wrth anrheithio a difrodi'r rhai sy'n dal i ofni'r Arglwydd.
72 Oherwydd difrodant ac anrheithiant eu cyfoeth, a'u bwrw allan o'u cartrefi.
73 Yna bydd yn amlwg fod fy etholedigion wedi eu profi, fel aur sy'n cael ei brofi yn y tân.
74 “Gwrandewch, fy etholedigion,” medd yr Arglwydd, “dyma ddyddiau'r cyfyngder wedi dod, ond fe'ch gwaredaf chwi ohonynt.
75 Peidiwch ag ofni na phetruso, oherwydd Duw yw eich arweinydd chwi.