1 “Dyma eiriau'r Arglwydd: Dygais i'r bobl hyn allan o gaethiwed, a rhoddais orchmynion iddynt trwy fy ngweision y proffwydi; ond gwrthodasant wrando arnynt, gan wneud fy nghynghorion yn ddiddim.
2 Y mae'r fam a'u dug hwy yn dweud wrthynt: ‘Ewch, fy mhlant, oherwydd yr wyf fi'n weddw ac yn wrthodedig.
3 Llawenydd i mi oedd eich magu chwi, ond galar a thristwch fu eich colli, am i chwi bechu gerbron yr Arglwydd Dduw, a gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg i.
4 Beth a allaf ei wneud er eich mwyn yn awr, a minnau'n weddw ac yn wrthodedig? Ewch, fy mhlant, a deisyfwch drugaredd gan yr Arglwydd.’
5 O'm rhan i, rwy'n galw arnat ti, dad, i ychwanegu dy dystiolaeth di at dystiolaeth mam y plant, eu bod wedi gwrthod cadw fy nghyfamod i.
6 Dwg felly derfysg arnynt hwy, ac anrhaith ar eu mam, rhag iddynt allu cenhedlu.