11 Adfeddiannaf ogoniant Israel; a'r tragwyddol bebyll yr oeddwn wedi eu darparu iddi hi, fe'u rhoddaf i'm pobl fy hun.
12 Eiddynt hwy fydd pren y bywyd a'i arogl pêr, ac ni ddaw llafur a lludded arnynt.
13 Ceisiwch, ac fe gewch; gofynnwch am i'r dyddiau fod yn ychydig i chwi, ac am eu byrhau; eisoes y mae'r deyrnas wedi ei pharatoi i chwi; byddwch yn wyliadwrus.
14 Galw'r nef yn dyst, galw'r ddaear yn dyst: yr wyf wedi dileu'r drwg a chreu'r da; oherwydd byw wyf fi,” medd yr Arglwydd.
15 “Fam, cofleidia dy blant; maetha hwy yn llawen, fel y gwna colomen; rho nerth i'w traed hwy. Oherwydd yr wyf fi wedi dy ddewis di,” medd yr Arglwydd.
16 “Atgyfodaf y meirw o'u lleoedd a'u dwyn allan o'u beddau, am fy mod yn cydnabod fy enw ynddynt hwy.
17 Paid ag ofni, fam y plant, oherwydd yr wyf fi wedi dy ddewis di,” medd yr Arglwydd.