16 “Atgyfodaf y meirw o'u lleoedd a'u dwyn allan o'u beddau, am fy mod yn cydnabod fy enw ynddynt hwy.
17 Paid ag ofni, fam y plant, oherwydd yr wyf fi wedi dy ddewis di,” medd yr Arglwydd.
18 “Anfonaf fy ngweision Eseia a Jeremeia i'th gynorthwyo; yn unol â'u proffwydoliaeth hwy yr wyf wedi cysegru a darparu ar dy gyfer ddeuddeg pren yn plygu dan bwysau eu gwahanol ffrwythau,
19 a deuddeg ffynnon yn llifeirio o laeth a mêl, a saith mynydd enfawr wedi eu gorchuddio â rhos a lili; â'r rhain fe lanwaf dy blant â gorfoledd.
20 Gwna gyfiawnder â'r weddw, barna dros y di-dad, rho i'r anghenus, gofala am yr amddifad, dillada'r noeth.
21 Cymer ofal o'r clwyfedig a'r gwan, paid â gwawdio'r cloff, gwarchod yr anafus, a dwg y dall i olwg fy nisgleirdeb i.
22 Cadw'r hen a'r ifanc yn ddiogel o fewn dy furiau.