30 Gorfoledda, fam, ynghyd â'th blant, oherwydd arbedaf di,” medd yr Arglwydd.
31 “Cofia dy blant sydd yn huno, oblegid fe'u dygaf allan o leoedd dirgel y ddaear, a thrugarhaf wrthynt; oherwydd trugarog wyf fi,” medd yr Arglwydd Hollalluog.
32 “Cofleidia dy blant nes i mi ddod, a chyhoedda iddynt drugaredd, am fod fy ffynhonnau yn llifo trosodd, heb ddim pall ar fy ngras i.”
33 Derbyniais i, Esra, orchymyn gan yr Arglwydd ar Fynydd Horeb, i fynd at Israel; ond pan ddeuthum atynt, fy nirmygu a wnaethant, a bwrw gorchymyn yr Arglwydd o'r neilltu.
34 Am hynny rwy'n dweud wrthych chwi, genhedloedd, chwi sydd yn clywed ac yn deall: “Disgwyliwch am eich bugail, ac fe rydd ichwi orffwys tragwyddol; oherwydd y mae'r un sydd i ddod ar ddiwedd y byd yn agos iawn.
35 Byddwch barod i dderbyn gwobrau'r deyrnas, oblegid bydd goleuni diddiwedd yn llewyrchu arnoch yn dragywydd.
36 Ffowch rhag cysgod y byd hwn, a derbyniwch orfoledd eich gogoniant. Yr wyf fi'n dwyn tystiolaeth agored i'm Gwaredwr