34 Am hynny rwy'n dweud wrthych chwi, genhedloedd, chwi sydd yn clywed ac yn deall: “Disgwyliwch am eich bugail, ac fe rydd ichwi orffwys tragwyddol; oherwydd y mae'r un sydd i ddod ar ddiwedd y byd yn agos iawn.
35 Byddwch barod i dderbyn gwobrau'r deyrnas, oblegid bydd goleuni diddiwedd yn llewyrchu arnoch yn dragywydd.
36 Ffowch rhag cysgod y byd hwn, a derbyniwch orfoledd eich gogoniant. Yr wyf fi'n dwyn tystiolaeth agored i'm Gwaredwr
37 Derbyniwch y rhodd a ymddiriedwyd i chwi gan yr Arglwydd, ac mewn gorfoledd diolchwch i'r Un sydd wedi'ch galw chwi i deyrnasoedd nefol.
38 Codwch a safwch; gwelwch yng ngwledd yr Arglwydd nifer y rhai sydd wedi eu selio,
39 y rhai sydd wedi ymadael â chysgod y byd, ac wedi derbyn gwisgoedd disglair gan yr Arglwydd.
40 Derbyn, Seion, y rhifedi sydd i ti, a chwblha nifer y rhai mewn gwisgoedd gwynion sydd i ti, y rhai sydd wedi cadw cyfraith yr Arglwydd.