25 Hynny a fu am flynyddoedd lawer; ond yna aeth trigolion y ddinas ar gyfeiliorn,
26 gan ymddwyn ym mhob dim fel Adda a'i holl ddisgynyddion ef; oherwydd yr oedd ganddynt hwythau hefyd galon ddrwg.
27 Felly traddodaist dy ddinas dy hun i ddwylo dy elynion.
28 “Yna dywedais wrthyf fy hun: ‘Tybed a yw trigolion Babilon yn ymddwyn yn well? Ai dyna pam y daethant i arglwyddiaethu ar Seion?’
29 Ond pan ddeuthum yma, gwelais weithredoedd annuwiol y dyrfa aneirif sydd yma; am ddeng mlynedd ar hugain bellach yr wyf wedi gweld eu drwgweithredwyr lu drosof fy hun.
30 Ymollyngodd fy nghalon, oherwydd gwelais fel yr wyt yn cydymddŵyn â hwy yn eu pechod, ac fel yr arbedaist y rhai annuwiol eu ffyrdd; difethaist dy bobl dy hun, ond cedwaist dy elynion yn ddiogel.
31 Nid wyt ychwaith wedi rhoi unrhyw arwydd i neb ynglŷn â'r modd y dylid dwyn y drefn hon i ben. Tybed a yw gweithredoedd Babilon yn well na rhai Seion?