10 Meddai ymhellach: “Nid yw'r gallu gennyt i ddeall y pethau hynny o'r eiddot yr wyt wedi tyfu yn eu cwmni.
11 Sut felly y dichon dy feddwl di amgyffred ffordd y Goruchaf? Sut y gall un sydd wedi ei ysu gan y byd llygredig ddeall anllygredigaeth?”
12 Pan glywais hyn, syrthiais ar fy hyd, a dweud wrtho: “Buasai'n well i ni fod heb ein geni na dod i fyw yng nghanol annuwioldeb, a dioddef heb ddeall pam.”
13 Atebodd yntau fi fel hyn: “Euthum allan i goedwig, ac yno yr oedd prennau'r maes yn cynllwyn â'i gilydd.
14 ‘Dewch’, meddent, ‘awn i ryfel yn erbyn y môr, a pheri iddo gilio o'n blaen, inni gael gwneud rhagor o goedwigoedd inni ein hunain.’
15 Yn yr un modd cynllwyniodd tonnau'r môr hwythau â'i gilydd, a dweud, ‘Dewch, awn i fyny a threchu coed y maes, i ennill yno diriogaeth ychwanegol inni ein hunain.’
16 Ond ofer fu cynllwyn y coed, oherwydd daeth tân a'u difa hwy.