32 Pan fydd hadau dirifedi o rawn da wedi eu hau, mor fawr y cynhaeaf a ddaw ohonynt hwy!”
33 Atebais innau: “Pa mor hir y mae'n rhaid aros? Pa bryd y digwydd hyn? Pam mai ychydig a drwg yw'n blynyddoedd ni?”
34 Meddai ef wrthyf: “Ni elli di brysuro mwy na'r Goruchaf; er dy fwyn dy hun yr wyt ti'n prysuro, ond mae'r Goruchaf yn prysuro er mwyn llawer.
35 Onid ynglŷn â'r pethau hyn y bu eneidiau'r cyfiawn yn holi yn eu hystafelloedd cudd, a dweud: ‘Pa mor hir yr wyf fi i barhau i obeithio fel hyn? Pa bryd y gwelir y cynnyrch ar y llawr dyrnu, ac y cawn ninnau dderbyn ein gwobr?’
36 A dyma'r ateb a gawsant gan yr archangel Jeremiel: ‘Pan fydd rhif y rhai tebyg i chwi yn gyflawn. Oherwydd y mae'r Arglwydd wedi pwyso'r byd mewn clorian,
37 y mae wedi mesur yr amserau yn sicr, a'u rhifo'n derfynol; ni symuda ac ni chyffry mohonynt, hyd nes y bydd y rhif penodedig yn gyflawn.’ ”
38 “Ond edrych, f'arglwydd feistr,” meddwn i, “yr ydym ni oll llawn annuwioldeb.