36 A dyma'r ateb a gawsant gan yr archangel Jeremiel: ‘Pan fydd rhif y rhai tebyg i chwi yn gyflawn. Oherwydd y mae'r Arglwydd wedi pwyso'r byd mewn clorian,
37 y mae wedi mesur yr amserau yn sicr, a'u rhifo'n derfynol; ni symuda ac ni chyffry mohonynt, hyd nes y bydd y rhif penodedig yn gyflawn.’ ”
38 “Ond edrych, f'arglwydd feistr,” meddwn i, “yr ydym ni oll llawn annuwioldeb.
39 Hwyrach mai o'n hachos ni, o achos pechodau trigolion y ddaear, y cedwir y cyfiawn rhag gweld dyfodiad amser dyrnu.”
40 Atebodd ef: “Dos a gofyn i wraig feichiog a all y groth ddal ei gafael ar y plentyn o'i mewn pan fydd ei naw mis hi yn gyflawn.”
41 “Amhosibl, f'arglwydd!” meddwn i. Atebodd yntau: “Yn y byd tanddaearol y mae'r ystafelloedd cudd sy'n dal eneidiau yn debyg i groth.
42 Oherwydd fel y mae gwraig wrth esgor yn prysuro i gael diwedd ar wewyr anorfod esgor, felly hefyd y mae'r ystafelloedd cudd yn prysuro i roi'n ôl yr hyn a ymddiriedwyd iddynt o'r dechreuad.