39 Ond myfi, nid oes imi ddoethineb; sut felly y gallaf siarad am y pethau hyn y gofynnaist i mi amdanynt?”
40 Meddai wrthyf: “Yn yr un modd ag yr wyt yn analluog i gyflawni unrhyw un o'r pethau a grybwyllwyd, felly hefyd ni elli ddarganfod fy marnedigaethau i, nac amcan y cariad a addewais i'm pobl.”
41 “Ond atolwg, f'arglwydd,” meddwn i, “yr wyt ti'n rhoi blaenoriaeth i'r rhai a fydd yn fyw yn y diwedd. Beth a wna'r rhai a fu byw o'n blaen ni, neu nyni ein hunain, neu'r rheini a ddaw ar ein hôl ni?”
42 Dywedodd yntau: “Cyffelybaf fy marnedigaeth i gylch crwn; ni bydd y rhai olaf yn rhy hwyr, na'r rhai cynharaf yn rhy fuan.”
43 Atebais innau fel hyn: “Onid oedd yn bosibl i ti lunio pawb—pobl y gorffennol, y presennol, a'r dyfodol—yn union yr un pryd? Byddit felly'n gallu cyhoeddi dy farnedigaeth gymaint yn gynt.”
44 Atebodd ef: “Ni all y greadigaeth brysuro mwy na'r Creawdwr, na'r byd gynnal yr un pryd bawb o'r rhai a grewyd i fyw ynddo.”
45 Meddwn innau: “Sut felly y dywedaist wrthyf y bywhei yn wir bob creadur a grewyd gennyt, a hynny'n union yr un pryd? Os ydynt hwy oll, yn y dyfodol, i fod yn fyw yr un pryd, ac os yw'r greadigaeth i'w cynnal, yna gallai'r greadigaeth wneud hynny yn awr, a'u dal oll yn bresennol gyda'i gilydd yr un pryd.”