43 Atebais innau fel hyn: “Onid oedd yn bosibl i ti lunio pawb—pobl y gorffennol, y presennol, a'r dyfodol—yn union yr un pryd? Byddit felly'n gallu cyhoeddi dy farnedigaeth gymaint yn gynt.”
44 Atebodd ef: “Ni all y greadigaeth brysuro mwy na'r Creawdwr, na'r byd gynnal yr un pryd bawb o'r rhai a grewyd i fyw ynddo.”
45 Meddwn innau: “Sut felly y dywedaist wrthyf y bywhei yn wir bob creadur a grewyd gennyt, a hynny'n union yr un pryd? Os ydynt hwy oll, yn y dyfodol, i fod yn fyw yr un pryd, ac os yw'r greadigaeth i'w cynnal, yna gallai'r greadigaeth wneud hynny yn awr, a'u dal oll yn bresennol gyda'i gilydd yr un pryd.”
46 Meddai yntau wrthyf: “Gofyn gwestiwn i groth gwraig, fel hyn: ‘Os wyt ti i esgor ar ddeg o blant, pam mai ar bob un yn ei dro y gwnei hynny?’ Gofyn iddi, gan hynny, esgor ar y deg yr un pryd.”
47 Meddwn innau: “Ni all wneud hynny; yn ei dro y digwydd pob esgor.”
48 “Felly hefyd,” atebodd ef, “i bob un yn ei dro y rhoddais i groth y ddaear i'r rheini a feichiogwyd ynddi.
49 Ni all plentyn roi genedigaeth, nac ychwaith wraig sydd bellach wedi mynd yn hen; yn yr un modd yr wyf finnau wedi trefnu ar gyfer y byd a grewyd gennyf.”