52 ‘Pam nad yw'r plant yr esgoraist arnynt yn ddiweddar yn debyg i'r rhai a anwyd yn gynharach? Pam y maent yn llai eu taldra?’
53 Ac fe ddywed hi wrthyt: ‘Ni ellir cymharu y rhai a anwyd yng nghryfder ieuenctid â'r rhai a anwyd yn amser henaint, pan yw'r groth yn llesgáu.’
54 Felly ystyria dithau hefyd: yr ydych chwi yn llai eich maint na'r rhai a fu o'ch blaen chwi,
55 a bydd y rhai a ddaw ar eich ôl yn llai hyd yn oed na chwi, oherwydd y mae'r greadigaeth eisoes yn heneiddio ac yn colli cryfder ieuenctid.”
56 Meddwn innau: “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg di, Arglwydd, a gaf fi ofyn i ti ddangos imi trwy bwy yr ymweli â'th greadigaeth?”