26 Yna cânt weld y rheini a dderbyniwyd i'r nefoedd heb iddynt erioed brofi marwolaeth. Newidir calon trigolion y ddaear, ac fe'u troir i ddeall pethau mewn ffordd newydd.
27 Oherwydd caiff drygioni ei lwyr ddiddymu, a thwyll ei ddileu;
28 ond bydd ffyddlondeb yn blodeuo, llygredd yn cael ei orchfygu, a'r gwirionedd, a fu'n ddiffrwyth cyhyd, yn dod i'r amlwg.”
29 Tra oedd y llais yn siarad â mi, dyma'r man yr oeddwn yn sefyll arno yn dechrau siglo
30 Yna meddai'r angel wrthyf: “Dyna'r pethau y deuthum i'w dangos iti y nos hon
31 Os bydd iti weddïo eto, ac ymprydio eto am saith diwrnod, yna fe ddychwelaf atat a mynegi iti bethau mwy hyd yn oed na'r rhain
32 oherwydd y mae dy lais yn sicr wedi ei glywed gan y Goruchaf, ac y mae'r Duw nerthol wedi gweld dy uniondeb ac wedi sylwi ar lendid dy fuchedd o'th ieuenctid.