29 Tra oedd y llais yn siarad â mi, dyma'r man yr oeddwn yn sefyll arno yn dechrau siglo
30 Yna meddai'r angel wrthyf: “Dyna'r pethau y deuthum i'w dangos iti y nos hon
31 Os bydd iti weddïo eto, ac ymprydio eto am saith diwrnod, yna fe ddychwelaf atat a mynegi iti bethau mwy hyd yn oed na'r rhain
32 oherwydd y mae dy lais yn sicr wedi ei glywed gan y Goruchaf, ac y mae'r Duw nerthol wedi gweld dy uniondeb ac wedi sylwi ar lendid dy fuchedd o'th ieuenctid.
33 Dyna pam yr anfonodd fi atat i ddangos yr holl bethau hyn iti ac i ddweud wrthyt: ‘Bydd ffyddiog, a phaid ag ofni.
34 Paid ychwaith â brysio, yn yr amserau sy'n blaenori'r diwedd, i ddyfalu pethau ofer; yna ni byddi'n gweithredu ar frys pan ddaw'r amserau diwethaf.’ ”
35 Ar ôl hynny, felly, bûm unwaith eto yn wylo ac yn ymprydio am saith diwrnod, yn union fel o'r blaen, er mwyn cyflawni'r tair wythnos a bennwyd imi.