34 Paid ychwaith â brysio, yn yr amserau sy'n blaenori'r diwedd, i ddyfalu pethau ofer; yna ni byddi'n gweithredu ar frys pan ddaw'r amserau diwethaf.’ ”
35 Ar ôl hynny, felly, bûm unwaith eto yn wylo ac yn ymprydio am saith diwrnod, yn union fel o'r blaen, er mwyn cyflawni'r tair wythnos a bennwyd imi.
36 A'r wythfed nos, yr oedd fy nghalon wedi ei chythryblu unwaith eto o'm mewn, a dechreuais lefaru wrth y Goruchaf;
37 oherwydd yr oedd fy ysbryd ar dân drwyddo, a'm henaid yn drallodus.
38 “Arglwydd,” meddwn, “o ddechrau'r greadigaeth fe fuost ti yn wir yn llefaru; y dydd cyntaf dywedaist, ‘Bydded nef a daear’, a chyflawnodd dy air y gwaith.
39 Yr amser hwnnw yr oedd yr Ysbryd ar ei adain, a thywyllwch a distawrwydd yn ymdaenu oddi amgylch, heb fod sŵn llais neb yno eto.
40 Yna gorchmynnaist ddwyn allan belydryn o oleuni o'th drysorfeydd, er mwyn i'th waith di ddod i'r golwg y pryd hwnnw.