43 A chyn gynted ag yr aeth dy air di allan, fe wnaed y gwaith.
44 Oherwydd ar unwaith daeth ffrwythau allan yn llu aneirif, a phob math o bethau dymunol i'w blasu, ynghyd â blodau digymar eu lliw ac arogleuon persawrus tu hwnt. Dyna'r hyn a wnaed y trydydd dydd.
45 Y pedwerydd dydd gorchmynnaist ddyfod ysblander yr haul, a llewyrch y lleuad, a'r sêr yn eu trefn;
46 a gorchmynnaist iddynt wasanaethu dyn, a oedd ar fin cael ei lunio.
47 Y pumed dydd dywedaist wrth y seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, am iddi eni i'r byd greaduriaid byw, adar a physgod.
48 Ac felly, yn unol â'th orchymyn, cynhyrchodd y dŵr mud, difywyd, greaduriaid byw, i'r cenhedloedd gael traethu dy ryfeddodau di oherwydd hynny.
49 Yna diogelaist ddau greadur; enwaist un ohonynt Behemoth, a'th enw ar yr ail oedd Lefiathan.