45 Y pedwerydd dydd gorchmynnaist ddyfod ysblander yr haul, a llewyrch y lleuad, a'r sêr yn eu trefn;
46 a gorchmynnaist iddynt wasanaethu dyn, a oedd ar fin cael ei lunio.
47 Y pumed dydd dywedaist wrth y seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, am iddi eni i'r byd greaduriaid byw, adar a physgod.
48 Ac felly, yn unol â'th orchymyn, cynhyrchodd y dŵr mud, difywyd, greaduriaid byw, i'r cenhedloedd gael traethu dy ryfeddodau di oherwydd hynny.
49 Yna diogelaist ddau greadur; enwaist un ohonynt Behemoth, a'th enw ar yr ail oedd Lefiathan.
50 Neilltuaist y naill oddi wrth y llall, oherwydd ni allai'r seithfed ran, lle'r oedd y dŵr wedi ymgasglu, eu dal hwy.
51 I Behemoth rhoddaist un o'r rhannau a sychwyd ar y trydydd dydd, iddo gael trigo yno, lle mae mil o fynyddoedd; ond i Lefiathan rhoddaist y seithfed ran, yr un ddyfriog.