7 Yna atebais i fel hyn: “Beth fydd yn gwahanu'r amserau? Pa bryd y bydd diwedd yr oes gyntaf a dechrau'r nesaf?”
8 Meddai ef wrthyf: “Ni bydd y gwahaniad yn hwy na hwnnw rhwng Abraham ac Abraham; oherwydd ganed Jacob ac Esau yn ddisgynyddion iddo ef, ac yr oedd llaw Jacob yn cydio yn sawdl Esau o'r dechreuad.
9 Y mae Esau'n cynrychioli diwedd yr oes hon, a Jacob ddechrau'r oes nesaf.
10 Dechrau dyn yw ei law, a diwedd dyn yw ei sawdl Paid â chwilio am ddim arall rhwng sawdl a llaw, Esra.”
11 “F'arglwydd feistr,” meddwn innau,
12 “os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dangos i mi ddiwedd dy arwyddion, y dangosaist ran ohonynt imi y noson flaenorol honno.”
13 Atebodd fi fel hyn: “Saf ar dy draed, a chei glywed llais cryf yn atseinio;