102 “Os wyf yn gymeradwy yn dy olwg,” atebais innau, “dangos hyn hefyd i mi, dy was: ar Ddydd y Farn, a fydd yn bosibl i'r cyfiawn eiriol dros yr annuwiol, neu ymbil ar y Goruchaf am faddeuant iddynt?
103 A all rhieni eiriol dros eu plant, neu blant dros eu rhieni? A all brodyr eiriol dros frodyr, neu berthnasau dros geraint, neu gyfeillion dros y rhai sydd anwylaf ganddynt?”
104 Atebodd ef fi fel hyn: “Yr wyt yn gymeradwy yn fy ngolwg, ac am hynny fe ddangosaf hyn hefyd i ti. Y mae Dydd y Farn yn derfynol ac yn dangos i bawb y sêl a roir ar wirionedd. Yn yr oes bresennol ni all tad anfon ei fab, neu fab ei dad, neu feistr ei gaethwas, neu gyfaill yr un sydd anwylaf ganddo, i fod yn glaf ar ei ran, neu i gysgu, neu i fwyta, neu i gael ei iacháu ar ei ran.
105 Yn yr un modd, ni all neb fyth eiriol dros rywun arall; oherwydd, yn y dydd hwnnw, bydd yn rhaid i bob unigolyn ddwyn baich ei weithredoedd drwg ei hun, neu faich ei weithredoedd da.”
106 [36] Atebais innau: “Sut, ynteu, y mae gennym dystiolaeth fod rhai wedi eiriol felly dros eraill? Yn gyntaf, dyna Abraham yn eiriol dros y Sodomiaid, ac yna Moses dros ein hynafiaid a bechodd yn yr anialwch.
107 [37] Ar ei ôl ef, dyna Josua yn eiriol dros Israel yn amser Achan,
108 [38] a Samuel yn amser Saul. Eto, dyna Ddafydd yn eiriol oherwydd yr haint ddinistriol, a Solomon dros y rhai a fyddai'n dod i'r cysegr.