116 [46] Atebais innau fel hyn: “Dyma fy ngair cyntaf a'm gair olaf: y buasai'n well pe na bai'r ddaear wedi rhoi bod i Adda; neu, o roi bod iddo, pe bai wedi ei gadw fel na allai bechu.
117 [47] Oherwydd pa elw sydd i ni oll o fyw mewn tristwch yn y presennol, heb ddim ond cosb i ddisgwyl amdano ar ôl marw?
118 [48] O Adda, beth a wnaethost? Oherwydd os tydi a bechodd, nid i ti yn unig y bu'r cwymp, ond i ninnau hefyd sydd yn ddisgynyddion i ti.
119 [49] Pa elw yw i ni fod oes anfarwol wedi ei haddo inni, a ninnau wedi cyflawni gweithredoedd marwol;
120 [50] bod gobaith tragwyddol wedi ei ragfynegi ar ein cyfer, a ninnau wedi mynd yn wael a diwerth;
121 [51] bod trigfannau llawn iechyd a diogelwch wedi eu darparu, a ninnau wedi byw bywyd drwg;
122 [52] bod gogoniant y Goruchaf i amddiffyn y rhai sydd wedi byw bywyd glân, a ninnau wedi rhodio yn y ffyrdd bryntaf posibl;