25 Am hynny, Esra, gwacter i'r gweigion a llawnder i'r llawnion!
26 Oherwydd wele, fe ddaw'r amser pan ddigwydd yr arwyddion yr wyf wedi eu rhagfynegi iti; fe ddaw'r ddinas, sydd yn awr yn anweladwy, i'r golwg, a'r tir, sydd yn awr yn guddiedig, i'r amlwg.
27 Pob un a waredwyd oddi wrth y drygau a ragfynegais, caiff hwnnw weld fy ngweithredoedd rhyfeddol i.
28 Oherwydd datguddir fy mab, y Meseia ynghyd â'r rhai sydd gydag ef, ac fe rydd ef lawenydd, yn parhau am bedwar can mlynedd, i'r rhai a adewir.
29 Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd farw fy mab, y Meseia, ynghyd â phawb sydd ag anadl ynddynt.
30 Yna dychwelir y byd i'w ddistawrwydd cysefin am saith diwrnod, fel yn y dechreuad cyntaf, fel na adewir neb ar ôl.
31 Ac ar ôl saith diwrnod, deffroir yr oes nad yw hyd yma ar ddihun, a bydd farw yr oes lygradwy.