29 Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd farw fy mab, y Meseia, ynghyd â phawb sydd ag anadl ynddynt.
30 Yna dychwelir y byd i'w ddistawrwydd cysefin am saith diwrnod, fel yn y dechreuad cyntaf, fel na adewir neb ar ôl.
31 Ac ar ôl saith diwrnod, deffroir yr oes nad yw hyd yma ar ddihun, a bydd farw yr oes lygradwy.
32 Bydd y ddaear yn rhoi'n ôl y rhai sy'n cysgu ynddi, a'r llwch y rhai sy'n trigo ynddo mewn distawrwydd; hefyd bydd yr ystafelloedd cudd yn rhoi'n ôl yr eneidiau a ymddiriedwyd iddynt hwy.
33 Datguddir y Goruchaf yn eistedd ar orseddfainc barn, ei dosturi ar ffo a'i hirymaros ar ben.
34 Barn yn unig fydd yn aros, gwirionedd fydd yn sefyll, a ffyddlondeb yn ymgryfhau.
35 Bydd tâl am waith yn dilyn, a'r wobr yn cael ei dangos; bydd gweithredoedd da ar ddihun, ac ni chaiff gweithredoedd drwg gysgu'n llonydd.