33 Datguddir y Goruchaf yn eistedd ar orseddfainc barn, ei dosturi ar ffo a'i hirymaros ar ben.
34 Barn yn unig fydd yn aros, gwirionedd fydd yn sefyll, a ffyddlondeb yn ymgryfhau.
35 Bydd tâl am waith yn dilyn, a'r wobr yn cael ei dangos; bydd gweithredoedd da ar ddihun, ac ni chaiff gweithredoedd drwg gysgu'n llonydd.
36 Yna daw pwll poenedigaeth i'r golwg, a chyferbyn ag ef bydd yr orffwysfa; amlygir ffwrnais Gehenna, a chyferbyn â hi baradwys llawenydd.
37 Yna fe ddywed y Goruchaf wrth y cenhedloedd a ddeffrowyd: ‘Edrychwch, a gwelwch pwy yr ydych wedi ei wadu, pwy yr ydych wedi gwrthod ei wasanaethu, gorchmynion pwy yr ydych wedi eu dirmygu.
38 Edrychwch yma, ac yna draw; yma y mae llawenydd a gorffwys, ond draw tân a phoenedigaeth.’
39 Dyna'r hyn a ddywed ef wrthynt ar Ddydd y Farn. Dydd tebyg i hyn fydd hwnnw: dydd heb na haul na lleuad na sêr;