36 Yna daw pwll poenedigaeth i'r golwg, a chyferbyn ag ef bydd yr orffwysfa; amlygir ffwrnais Gehenna, a chyferbyn â hi baradwys llawenydd.
37 Yna fe ddywed y Goruchaf wrth y cenhedloedd a ddeffrowyd: ‘Edrychwch, a gwelwch pwy yr ydych wedi ei wadu, pwy yr ydych wedi gwrthod ei wasanaethu, gorchmynion pwy yr ydych wedi eu dirmygu.
38 Edrychwch yma, ac yna draw; yma y mae llawenydd a gorffwys, ond draw tân a phoenedigaeth.’
39 Dyna'r hyn a ddywed ef wrthynt ar Ddydd y Farn. Dydd tebyg i hyn fydd hwnnw: dydd heb na haul na lleuad na sêr;
40 heb na chwmwl na tharan na mellten; heb na gwynt na dŵr nac awyr; heb na thywyllwch na hwyr na bore;
41 heb na haf na gwanwyn na gwres; heb na gaeaf na rhew nac oerfel; heb na chenllysg na glaw na gwlith;
42 heb na chanol dydd na nos na gwawr; heb na disgleirdeb na llewyrch na goleuni; dim ond llewyrch ysblennydd y Goruchaf, y bydd pawb yn dechrau gweld wrtho beth a ragosodwyd iddynt.