44 Dyna'r farn, a'r drefn a osodais ar ei chyfer. I ti yn unig y dangosais y pethau hyn.”
45 “Fe'i dywedais o'r blaen, f'arglwydd,” atebais innau, “ac rwy'n ei ddweud eto: Gwyn eu byd y rhai sy'n byw yn awr ac yn cadw dy ddeddfau di.
46 Ond beth am y rhai y gweddïais drostynt? Oherwydd pwy o blith y rhai sy'n byw yn awr sydd heb bechu, neu pwy o blith plant dynion sydd heb anwybyddu dy addewid?
47 Gwelaf yn awr mai i ychydig y bydd y byd a ddaw yn dwyn llawenydd, ond arteithiau i'r lliaws.
48 Oherwydd mynd ar gynnydd a wnaeth ein calon ddrwg, a'n dieithrio oddi wrth ffyrdd Duw; arweiniodd ni i lygredigaeth a ffyrdd marwolaeth; dangosodd inni lwybrau distryw, a'n pellhau oddi wrth fywyd. Hyn a fu, nid i ychydig, ond i bron bawb a grewyd.”
49 Atebodd ef fi fel hyn: “Gwrando arnaf fi, ac fe'th ddysgaf; af ymlaen ymhellach i'th gywiro di.
50 Y mae'r rheswm pam y creodd y Goruchaf nid un byd ond dau fel a ganlyn: