5 Pe bai rhywun yn dymuno o ddifrif gyrraedd y môr, naill ai i'w weld neu i gael rheolaeth arno, sut y gallai gyrraedd y lle eang heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r lle cul?
6 Neu eto, dychmyga ddinas wedi ei hadeiladu a'i safle ar dir gwastad, a'i llond o bopeth da,
7 ond bod y ffordd i mewn iddi yn gul a serth, gyda thân ar y dde a dyfnder o ddŵr ar y chwith,
8 a'r llwybr hwn rhyngddynt, sef rhwng y tân a'r dŵr, yn unig lwybr ati, a'i led heb fod yn ddim mwy na lled troed dyn.
9 Pe bai'r ddinas honno wedi ei rhoi yn etifeddiaeth i ryw ddyn, sut y gallai'r etifedd hwnnw feddiannu ei etifeddiaeth heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r perygl a osodwyd o'i flaen?”
10 “Felly'n union, f'arglwydd,” atebais innau.Meddai yntau wrthyf: “Hyn hefyd yw rhan Israel.
11 Oherwydd er mwyn Israel y gwneuthum y byd; ond pan dorrodd Adda fy neddfau, daeth yr hyn a wnaethpwyd dan farn.