58 “F'arglwydd feistr,” meddwn i, “y mae'r cyffredin yn llai ei werth, oherwydd po brinnaf y peth, gwerthfawrocaf yw.”
59 Atebodd yntau fi fel hyn: “Rho sylw gofalus i ystyr yr hyn y buost yn myfyrio arno: sef bod mwy o achos llawenhau gan y sawl sy'n berchen ar rywbeth anodd ei gael na chan y sawl sy'n berchen ar rywbeth cyffredin.
60 Felly hefyd y bydd y farn a addewais i; gorfoleddaf am yr ychydig a achubir, oherwydd hwy yw'r rhai sydd eisoes wedi peri i rym fy ngogoniant i fynd ar led, ac y maent eisoes wedi gwneud fy enw yn hysbys.
61 Ni ofidiaf am lu'r rhai a gollwyd; oherwydd hwy yw'r rhai sydd bellach wedi mynd yn debyg i darth, yn gyffelyb i fflam neu fwg, yn cynnau a llosgi a diffodd.”
62 Atebais innau: “Di ddaear, ar beth yr wyt wedi esgor, os o'r llwch y daeth deall dyn, fel popeth arall a grewyd?
63 Byddai'n well petai'r llwch ei hun heb ei eni, a deall dyn, felly, heb ddod ohono.
64 Ond yn awr y mae'n deall yn cyd-dyfu â ni, a chawn ninnau ein harteithio o wybod ein bod yn trengi.