6 Neu eto, dychmyga ddinas wedi ei hadeiladu a'i safle ar dir gwastad, a'i llond o bopeth da,
7 ond bod y ffordd i mewn iddi yn gul a serth, gyda thân ar y dde a dyfnder o ddŵr ar y chwith,
8 a'r llwybr hwn rhyngddynt, sef rhwng y tân a'r dŵr, yn unig lwybr ati, a'i led heb fod yn ddim mwy na lled troed dyn.
9 Pe bai'r ddinas honno wedi ei rhoi yn etifeddiaeth i ryw ddyn, sut y gallai'r etifedd hwnnw feddiannu ei etifeddiaeth heb iddo'n gyntaf fynd trwy'r perygl a osodwyd o'i flaen?”
10 “Felly'n union, f'arglwydd,” atebais innau.Meddai yntau wrthyf: “Hyn hefyd yw rhan Israel.
11 Oherwydd er mwyn Israel y gwneuthum y byd; ond pan dorrodd Adda fy neddfau, daeth yr hyn a wnaethpwyd dan farn.
12 Gwnaed y ffyrdd i mewn i'r byd hwn yn gul a phoenus a thrafferthus; ychydig ydynt a gwael, yn llawn peryglon ac wedi eu pentyrru ag anawsterau mawr.