76 Atebodd ef fi â'r geiriau hyn: “Dangosaf hynny hefyd iti; ond paid â'th gynnwys dy hun ymhlith y gwawdwyr, na'th gyfrif dy hun gyda'r rhai a boenydir.
77 Oherwydd y mae gennyt ti drysor o weithredoedd da wedi ei roi i gadw gyda'r Goruchaf, ond ni chaiff ei amlygu iti hyd at yr amserau diwethaf.
78 Ond dyma sydd i'w ddweud ynglŷn â marwolaeth: pan fydd y ddedfryd derfynol wedi mynd allan oddi wrth y Goruchaf bod rhywun i farw, y mae'r ysbryd yn ymadael â'r corff i ddychwelyd at yr Un a'i rhoes, ac y mae'n addoli gogoniant y Goruchaf yn gyntaf oll.
79 Ac os yw'n un o'r rheini a fu'n gwawdio ac yn gwrthod cadw ffordd y Goruchaf, yn dirmygu ei gyfraith ef ac yn casáu'r rhai sy'n ofni Duw,
80 ni chaiff ysbrydoedd felly fynd i mewn i'r trigfannau, ond o hynny ymlaen byddant yn crwydro mewn poenedigaethau, bob amser yn alarus a thrist, a hynny am saith rheswm.
81 Yn gyntaf, am iddynt ddiystyru ffordd y Goruchaf.
82 Yn ail, am na allant bellach wir edifarhau a chael byw.