1 Atebodd yr angel fi fel hyn: “Gwnaeth y Goruchaf y byd hwn ar gyfer llawer, ond y byd sydd i ddod ar gyfer ychydig.
2 Ond gad imi roi eglureb iti, Esra. Hola'r ddaear, ac fe ddywed wrthyt y rhydd hi ddigonedd o glai i wneud llestri pridd, ond ychydig iawn o'r llwch y ceir aur ohono. Yr un yw ffordd y byd hwn:
3 y mae llawer, yn wir, wedi eu creu, ond ychydig a gaiff eu hachub.”
4 Atebais innau: “Fy enaid, cymer ddeall i'w yfed a doethineb i'w fwyta.
5 Oherwydd nid o'th ddewis dy hun y daethost i'r byd, ac yn erbyn dy ewyllys yr wyt yn ymadael ag ef; oblegid am gyfnod byr yn unig y caniatawyd i ti fyw.”
6 Yna gweddïais: “O Arglwydd uwchben, os caniatéi i'th was ddynesu a gweddïo arnat, gosod had yn ein calon a gwrtaith i'n deall, er mwyn i ffrwyth ddod ohono a galluogi pob un llygredig i gael bywyd.
7 Oherwydd un wyt ti; ac un ffurfiad, gwaith dy ddwylo di, ydym ninnau, fel y dywedaist.