14 Ond os wyt yn distrywio mor swta un a luniwyd wrth dy orchymyn â chymaint o lafur, beth oedd pwrpas ei greu ef?
15 Yn awr yr wyf am ddweud hyn: ti sy'n gwybod orau am y ddynolryw gyfan; ond am dy bobl dy hun yr wyf fi'n poeni,
16 ac am dy etifeddiaeth yr wyf yn galaru; am Israel yr wyf fi'n drist, ac am had Jacob yr wyf yn drallodus.
17 Drosof fy hun, felly, a throstynt hwy, dymunwn weddïo ger dy fron, am fy mod yn gweld ein gwrthgiliadau ni, drigolion y tir;
18 clywais hefyd fod y Farn i ddilyn yn gyflym.
19 Am hynny gwrando ar fy llais, ac ystyria'r geiriau a lefaraf ger dy fron.”
20 Dyma ddechrau gweddi Esra, cyn iddo gael ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Meddai: “Arglwydd, yr wyt ti'n preswylio yn nhragwyddoldeb, a'th lygaid wedi eu dyrchafu, a'r nefoedd uwchben yn eiddo iti;