16 ac am dy etifeddiaeth yr wyf yn galaru; am Israel yr wyf fi'n drist, ac am had Jacob yr wyf yn drallodus.
17 Drosof fy hun, felly, a throstynt hwy, dymunwn weddïo ger dy fron, am fy mod yn gweld ein gwrthgiliadau ni, drigolion y tir;
18 clywais hefyd fod y Farn i ddilyn yn gyflym.
19 Am hynny gwrando ar fy llais, ac ystyria'r geiriau a lefaraf ger dy fron.”
20 Dyma ddechrau gweddi Esra, cyn iddo gael ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Meddai: “Arglwydd, yr wyt ti'n preswylio yn nhragwyddoldeb, a'th lygaid wedi eu dyrchafu, a'r nefoedd uwchben yn eiddo iti;
21 y mae dy orsedd y tu hwnt i bob dychymyg, a'th ogoniant yn anchwiliadwy; ger dy fron saif llu'r angylion dan grynu,
22 yn cael eu troi'n wynt a thân i'th wasanaethu di; y mae dy air yn sicr a'th ymadroddion yn ddianwadal,