19 Am hynny gwrando ar fy llais, ac ystyria'r geiriau a lefaraf ger dy fron.”
20 Dyma ddechrau gweddi Esra, cyn iddo gael ei gymryd i fyny i'r nefoedd. Meddai: “Arglwydd, yr wyt ti'n preswylio yn nhragwyddoldeb, a'th lygaid wedi eu dyrchafu, a'r nefoedd uwchben yn eiddo iti;
21 y mae dy orsedd y tu hwnt i bob dychymyg, a'th ogoniant yn anchwiliadwy; ger dy fron saif llu'r angylion dan grynu,
22 yn cael eu troi'n wynt a thân i'th wasanaethu di; y mae dy air yn sicr a'th ymadroddion yn ddianwadal,
23 dy archiad yn gadarn a'th orchymyn yn ofnadwy; y mae dy drem yn sychu'r dyfnderau, dy ddicter yn peri i'r mynyddoedd doddi, a'th wirionedd yn para byth
24 Clyw, Arglwydd, weddi dy was; gwrando ar ddeisyfiad creadur a luniaist, a dal sylw ar fy ngeiriau.
25 Tra byddaf byw, gadawer imi lefaru; tra bydd synnwyr gennyf, gadawer imi ateb.