31 Oherwydd buom ni a'n hynafiaid yn dilyn arferion angheuol, ac eto o'n hachos ni bechaduriaid y gelwir di yn drugarog;
32 oblegid os wyt yn dymuno trugarhau wrthym ni, sydd heb unrhyw weithredoedd cyfiawn ar ein helw, yna fe'th elwir yn drugarog yn wir.
33 Oherwydd y mae'r cyfiawn, gan fod ganddynt lawer o weithredoedd da wedi eu rhoi ynghadw gyda thi, yn derbyn eu tâl ar sail eu gweithredoedd eu hunain.
34 “Beth yw dyn, i ti ddigio wrtho, neu'r hil lygradwy, i ti fod mor chwerw tuag ati?
35 Oherwydd y gwir yw na aned neb nad yw wedi ymddwyn yn annuwiol, ac nad oes neb byw nad yw wedi pechu.
36 Oblegid yn hyn, Arglwydd, y gwneir dy gyfiawnder a'th ddaioni di yn hysbys, sef iti fod yn drugarog tuag at y rhai nad oes ganddynt gyfalaf o weithredoedd da.”
37 Atebodd ef fi fel hyn: “Y mae llawer o'r hyn a ddywedaist yn gywir, ac yn unol â'th eiriau y bydd pethau'n digwydd.