37 Ond ni dderfydd am y gyfraith; y mae hi'n aros yn ei gogoniant.”
38 Pan oeddwn yn dweud y pethau hyn ynof fy hun, edrychais o'm cwmpas a gweld ar y dde imi wraig, a honno'n galaru ac yn wylofain â llais uchel, yn drallodus iawn ei hysbryd, ei dillad wedi eu rhwygo, a lludw ar ei phen.
39 Bwriais o'r neilltu y pethau a fu'n llenwi fy meddwl, a throi ati hi a dweud:
40 “Pam yr wyt ti'n wylo? A pham yr wyt yn drallodus?”
41 Atebodd hithau: “F'arglwydd, gad lonydd imi, i wylo drosof fy hun ac i ymollwng i'm galar, oherwydd yr wyf yn chwerw iawn fy ysbryd, a'm darostyngiad yn fawr.”
42 “Beth sydd wedi digwydd iti?” gofynnais. “Dywed wrthyf.”
43 Meddai hithau wrthyf: “Bûm i, dy wasanaethyddes, yn ddiffrwyth, ac er imi fod yn briod am ddeng mlynedd ar hugain nid oeddwn wedi dwyn plant.