Doethineb Solomon 1 BCND

Ceisio Duw ac Ymwrthod â Drygioni

1 Carwch gyfiawnder, chwi lywodraethwyr y ddaear;meddyliwch am yr Arglwydd ag ewyllys da,a cheisiwch ef o lwyrfryd calon.

2 Fe'i ceir gan y rhai na fynnant ei herio;y mae'n ymddangos i'r rhai na fynnant anghredu ynddo.

3 Oherwydd y mae cynlluniau gwyrgam yn ein gwahanu oddi wrth Dduw,ac o'i roi ar brawf y mae'r Hollalluog yn dinoethi'r ynfyd.

4 Ni chaiff doethineb ddod i mewn i'r enaid dichellgarnac ymgartrefu mewn corff sy'n wystl i bechod.

5 Bydd ysbryd sanctaidd addysg yn ffoi oddi wrth dwyll,ac yn cilio ymhell oddi wrth gynlluniau anneallus,ac yn cywilyddio pan ddaw anghyfiawnder i'r golwg.

6 Ysbryd dyngarol yw doethineb,ond ni all ddyfarnu'n ddieuog un sy'n cablu â'i wefusau,am fod Duw'n dyst o'i deimladau dyfnaf,yn archwiliwr cywir o'i feddyliauac yn wrandawr ar ei eiriau.

7 Gan fod ysbryd yr Arglwydd wedi llenwi'r holl fyd,a'r ysbryd sy'n dal y cyfanfyd ynghyd yn adnabod pob llais,

8 am hynny ni fydd neb sy'n llefaru geiriau anghyfiawn yn dianc,ac ni fydd y farn byth yn mynd heibio iddo heb ei gondemnio.

9 Oherwydd archwilir cynllwynion yr annuwiol,ac adroddir ei eiriau wrth yr Arglwydd,i'w gondemnio am ei droseddau.

10 Oherwydd y mae clust eiddigus yn clywed popeth;nid oes na siw na miw a gollir.

11 Gochelwch, felly, rhag grwgnach anfuddiol,a chadwch eich tafod rhag athrod;oherwydd ni fydd gair llechwraidd heb ei ganlyniad,a lladd yr enaid y mae genau celwyddog.

12 Peidiwch â chwennych marwolaeth trwy fyw ar gyfeiliorn,na thynnu distryw ar eich pennau trwy weithredoedd eich dwylo.

13 Oherwydd nid gwaith Duw yw marwolaeth,ac nid yw'n hyfrydwch ganddo ef weld y byw yn darfod.

14 Pwrpas y creu oedd rhoi bod i bob peth,a phwerau creadigol y byd yw ei iechyd;nid oes ynddynt wenwyn marwol,na chyfle i angau deyrnasu ar y ddaear.

15 Y mae cyfiawnder yn anfarwol,

16 ond ar air a gweithred gwahoddodd yr annuwiol angau i'w plith;gan iddynt ei ystyried yn gyfaill, darfu amdanynt.Gwnaethant gyfamod ag ef,oherwydd teilwng ydynt o fod yn bartneriaid iddo.

Penodau

1 2 3 4 5