Doethineb Solomon 4 BCND

1 Gwell bod heb blant a bod gennym rinwedd,oherwydd yn yr atgof amdani y daw anfarwoldeb,gan yr arddelir hi gan Dduw a hefyd gan bobl.

2 Yn ei gŵydd fe'i hefelychir,a hiraethir amdani yn ei habsen;ac yn yr oes a ddaw, bydd yn gorymdeithio â thorch am ei phen,wedi mynd â'r gamp ac ennill gwobr anllygredigaeth.

3 Ond ni bydd eu hepil toreithiog o les i'r annuwiol,am na all yr un eginyn bastardaidd fwrw gwreiddyn yn ddwfnna daearu'n gadarn.

4 Oherwydd er i'w ganghennau flaguro am dymor,gan nad oes iddo gadernid daear fe'i hysgydwir gan y storma'i ddiwreiddio gan rym y gwyntoedd.

5 Rhwygir ei frigau i ffwrdd cyn dod i'w llawn dwf;bydd ei ffrwyth yn ddiwerth ac anaeddfed i'w fwyta,heb fod yn dda i ddim yn y byd.

6 Oherwydd bydd plant a genhedlir o gydorwedd anghyfreithlonyn dystiolaeth i bechod eu rhieni yn nydd yr archwiliad arnynt.

Marw Cynnar y Cyfiawn

7 Ond bydd y cyfiawn, er iddo farw'n gynnar, yn gorffwys mewn hedd.

8 Nid hirhoedledd sy'n rhoi ei werth i henaint,ac nid amlder blynyddoedd yw ei fesur.

9 Nage, dealltwriaeth sy'n rhoi urddas penwynni i bobl,a bywyd difrycheulyd a ddyry iddynt aeddfedrwydd henaint.

10 Yr oedd gŵr yr ymhyfrydodd Duw ynddo a'i garu;am ei fod yn byw ymhlith pechaduriaid, fe'i cymerodd ef ato'i hun.

11 Fe'i cipiodd ymaith rhag i ddrygioni wyrdroi ei ddeallneu i ddichell dwyllo'i enaid.

12 Oherwydd y mae hud oferedd yn bwrw daioni i'r cysgod,a chwirligwgan chwant yn troi pen y diniwed.

13 Yng nghyflawniad oes fer cwblhaodd hir flynyddoedd.

14 Yr oedd ei enaid wrth fodd yr Arglwydd;dyna pam y brysiodd ef i'w dynnu o ganol drygioni.Ond er iddynt weld, ni ddeallodd y cenhedloeddy fath ddigwyddiad, na dwyn i ystyriaeth

15 fod gras a thrugaredd gan Dduw i'w etholedigion,a chymorth amserol i'w saint.

Tynged yr Anghyfiawn

16 Bydd y cyfiawn a fu farw yn condemnio'r annuwiol sy'n dal i fyw,a'r ifanc, a ddaeth i ddiwedd cynnar, yn condemnio hirhoedledd yr anghyfiawn.

17 Y mae'r rhieni'n gweld diwedd y doeth,heb fod ganddynt syniad am fwriadau'r Arglwydd amdano,a'i ddiben wrth ei ddwyn i ddiogelwch.

18 Fe'i gwelant ac fe'i dirmygant;ond bydd yr Arglwydd yn chwerthin am eu pen hwy.A'r peth nesaf fydd eu cael yn gelanedd di-barch,ac yn warth ymhlith y meirw am byth,

19 am y bydd ef yn eu lluchio ar eu hyd yn gyrff mud,a'u dymchwel yn llwyr,a'u llosgi'n llwch;poenedigaeth fydd eu rhan,a derfydd y cof amdanynt.

20 Ar ddydd cyfrif eu pechodau dynesant fel llyfrgwn,am y collfernir hwy yn eu hwyneb gan eu troseddau eu hunain.

Penodau

1 2 3 4 5