18 Oherwydd os yw'r cyfiawn yn blentyn i Dduw, caiff gymorth ganddo,a'i waredu o ddwylo'i elynion.
19 Holwn ef ag artaith a dirboen,inni gael mesur ei diriondeba dyfarnu ar ei oddefgarwch.
20 Dedfrydwn ef i farwolaeth gywilyddus;oherwydd daw gwaredigaeth iddo, yn ôl ei eiriau ef.”
21 Dyna'u hymresymiad, ond aethant ar gyfeiliorn,am i'w drygioni eu dallu.
22 Nid oedd ganddynt wybodaeth am ddirgelion Duw,na gobaith am wobr sancteiddrwydd,nac amcan am fraint eneidiau di-fai;
23 oherwydd mewn anllygredigaeth y creodd Duw ddyna'i wneud ar ddelw ei dragwyddoldeb ef ei hun.
24 Ond trwy genfigen y diafol y daeth angau i'r byd,ac y mae'r rhai sydd o'i blaid ef yn cael profiad ohono.