21 Dyna'u hymresymiad, ond aethant ar gyfeiliorn,am i'w drygioni eu dallu.
22 Nid oedd ganddynt wybodaeth am ddirgelion Duw,na gobaith am wobr sancteiddrwydd,nac amcan am fraint eneidiau di-fai;
23 oherwydd mewn anllygredigaeth y creodd Duw ddyna'i wneud ar ddelw ei dragwyddoldeb ef ei hun.
24 Ond trwy genfigen y diafol y daeth angau i'r byd,ac y mae'r rhai sydd o'i blaid ef yn cael profiad ohono.