9 Peidied neb ohonom â bod heb ei gyfran o'n gloddesta;gadawn arwyddion ein rhialtwch ym mhobman,am mai dyma'n rhan a dyma'n cyfran.
10 Gorthrymwn y tlawd cyfiawn;peidiwn ag arbed y weddw;gwrthodwn barchu hirhoedledd penwyn yr henwr.
11 I ni boed grym yn gyfraith cyfiawnder,am inni brofi bod gwendid yn gwbl ddi-fudd.
12 Gosodwn fagl ar gyfer y cyfiawn, am iddo sefyll ar ein ffordda rhwystro ein gweithgareddau;y mae'n edliw i ni ein troseddau yn erbyn y gyfraith,ac yn dannod i ni ein troseddau yn erbyn ein magwraeth.
13 Y mae'n honni bod ganddo wybodaeth o Dduw,ac yn ei alw ei hun yn blentyn yr Arglwydd.
14 Fe'i cawsom yn gerydd ar ein cynlluniau,a gwrthun i ni yw hyd yn oed edrych arno.
15 Oherwydd annhebyg yw yn ei fuchedd i bawb arall,a chwbl ar wahân yw ei lwybrau.